1 Samuel 17:17-18
1 Samuel 17:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Plîs, brysia draw i’r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi’i grasu a deg torth iddyn nhw. A chymer y deg darn yma o gaws i’w roi i’r capten. Ffeindia allan sut mae pethau’n mynd, a thyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw’n iawn.
1 Samuel 17:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd, “Cymer effa o'r crasyd yma i'th frodyr, a'r deg torth hyn, a brysia â hwy i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â'r deg cosyn gwyn yma i'r swyddog, ac edrych sut y mae hi ar dy frodyr, a thyrd â rhyw arwydd yn ôl oddi wrthynt.”
1 Samuel 17:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr. Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt.