Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 17:1-51

1 Samuel 17:1-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Casglodd y Philistiaid eu lluoedd i ryfel, ac ymgynnull yn Socho, a oedd yn perthyn i Jwda, a gosod eu gwersyll rhwng Socho ac Aseca yn Effes-dammim. Ymgynullodd Saul a'r Israeliaid hefyd, a gwersyllu yn nyffryn Ela a pharatoi i frwydro yn erbyn y Philistiaid. Safai'r Philistiaid ar dir uchel o un tu, ac Israel ar dir uchel o'r tu arall, gyda dyffryn rhyngddynt. O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra. Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau. Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau. Yr oedd paladr ei waywffon fel carfan gwehydd, a'i blaen yn chwe chan sicl o haearn. Yr oedd cludydd tarian yn cerdded o'i flaen. Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, “Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Onid Philistiad wyf fi, a chwithau'n weision i Saul? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi. Os medr ef ymladd â mi a'm trechu, fe fyddwn ni yn weision i chwi; ond os medraf fi ei drechu ef, chwi fydd yn weision i ni, ac yn ein gwasanaethu.” Ychwanegodd y Philistiad, “Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel; dewch â gŵr, ynteu, inni gael ymladd â'n gilydd.” Pan glywodd Saul a'r Israeliaid y geiriau hyn gan y Philistiad, yr oeddent wedi eu parlysu gan ofn. Yr oedd Dafydd yn fab i Effratead o Fethlehem Jwda. Jesse oedd enw hwnnw, ac yr oedd ganddo wyth mab, ac erbyn dyddiau Saul yr oedd yn hen iawn. Yr oedd ei dri mab hynaf wedi dilyn Saul i'r rhyfel. Enwau'r tri o'i feibion a aeth i'r rhyfel oedd Eliab yr hynaf, Abinadab yr ail, a Samma y trydydd; Dafydd oedd yr ieuengaf. Aeth y tri hynaf i ganlyn Saul; ond byddai Dafydd yn mynd a dod oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad ym Methlehem. Bob bore a hwyr am ddeugain diwrnod bu'r Philistiad yn dod ac yn sefyll i herio. Dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd, “Cymer effa o'r crasyd yma i'th frodyr, a'r deg torth hyn, a brysia â hwy i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â'r deg cosyn gwyn yma i'r swyddog, ac edrych sut y mae hi ar dy frodyr, a thyrd â rhyw arwydd yn ôl oddi wrthynt.” Yr oedd Saul a hwythau ac Israel gyfan yn nyffryn Ela yn ymladd â'r Philistiaid. Trannoeth cododd Dafydd yn fore, a gadael y praidd gyda gofalwr, a chymryd ei bac a mynd fel yr oedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Cyrhaeddodd y gwersyll fel yr oedd y fyddin yn mynd i'w rhengoedd ac yn bloeddio'r rhyfelgri. Yr oedd Israel a'r Philistiaid wedi trefnu eu lluoedd, reng am reng. Gadawodd Dafydd ei bac gyda gofalwr y gwersyll, a rhedeg i'r rheng a mynd i ofyn sut yr oedd ei frodyr. Tra oedd yn ymddiddan â hwy, dyna'r heriwr o'r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod i fyny o rengoedd y Philistiaid ac yn llefaru yng nghlyw Dafydd yr un geiriau ag o'r blaen. Pan welodd yr Israeliaid y dyn, ffoesant i gyd oddi wrtho mewn ofn, a dweud, “A welwch chwi'r dyn yma sy'n dod i fyny? I herio Israel y mae'n dod. Pe byddai unrhyw un yn ei ladd, byddai'r brenin yn ei wneud yn gyfoethog iawn, ac yn rhoi ei ferch iddo, ac yn rhoi rhyddfraint Israel i'w deulu.” Yna gofynnodd Dafydd i'r dynion oedd yn sefyll o'i gwmpas, “Beth a wneir i'r sawl fydd yn lladd y Philistiad acw, ac yn symud y sarhad oddi ar Israel? Oherwydd pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, ei fod yn herio lluoedd y Duw byw?” Dywedodd y bobl yr un peth wrtho: “Fel hyn y gwneir i'r sawl fydd yn ei ladd ef.” Clywodd ei frawd hynaf Eliab ef yn siarad â'r dynion, a chollodd ei dymer â Dafydd a dweud, “Pam y daethost ti i lawr yma? Yng ngofal pwy y gadewaist yr ychydig ddefaid yna yn y diffeithwch? Mi wn dy hyfdra a'th fwriadau drwg—er mwyn cael gweld y frwydr y daethost ti draw yma.” Dywedodd Dafydd, “Beth wnes i? Onid gofyn cwestiwn?” Trodd draw oddi wrtho at rywun arall, a gofyn yr un peth, a'r bobl yn rhoi'r un ateb ag o'r blaen iddo. Rhoddwyd sylw i'r geiriau a lefarodd Dafydd, a'u hailadrodd wrth Saul, ac anfonodd yntau amdano. Ac meddai Dafydd wrth Saul, “Peidied neb â gwangalonni o achos hwn; fe â dy was ac ymladd â'r Philistiad yma.” Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.” Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was; pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd. Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.” Ac ychwanegodd Dafydd, “Bydd yr ARGLWYDD a'm gwaredodd o afael y llew a'r arth yn sicr o'm hachub o afael y Philistiad hwn hefyd.” Dywedodd Saul, “Dos, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.” Rhoddodd Saul ei wisg ei hun am Ddafydd: rhoi helm bres ar ei ben, ei wisgo yn ei lurig, a gwregysu Dafydd â'i gleddyf dros ei wisg. Ond methodd gerdded, am nad oedd wedi arfer â hwy. Dywedodd Dafydd wrth Saul, “Ni fedraf gerdded yn y rhain, oherwydd nid wyf wedi arfer â hwy.” A diosgodd hwy oddi amdano. Yna cymerodd ei ffon yn ei law, dewisodd bum carreg lefn o'r nant a'u rhoi yn y bag bugail oedd ganddo fel poced, a nesaodd at y Philistiad â'i ffon dafl yn ei law, Daeth hwnnw allan i gyfarfod Dafydd, gyda chludydd ei darian o'i flaen. A phan edrychodd y Philistiad a gweld Dafydd, dirmygodd ef am ei fod yn llencyn gwritgoch, golygus. Ac meddai'r Philistiad wrth Ddafydd, “Ai ci wyf fi, dy fod yn dod ataf â ffyn?” A rhegodd y Philistiad ef yn enw ei dduw, a dweud wrtho, “Tyrd yma, ac fe roddaf dy gnawd i adar yr awyr ac i'r anifeiliaid gwyllt.” Ond dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, “Yr wyt ti'n dod ataf fi â chleddyf a gwaywffon a chrymgledd; ond yr wyf fi'n dod atat ti yn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio. Y dydd hwn bydd yr ARGLWYDD yn dy roi yn fy llaw; lladdaf di a thorri dy ben i ffwrdd, a rhoi celanedd llu'r Philistiaid heddiw i adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, er mwyn i'r byd i gyd wybod fod Duw gan Israel, ac i'r holl gynulliad hwn wybod nad trwy gleddyf na gwaywffon y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu, oherwydd yr ARGLWYDD biau'r frwydr, ac fe'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.” Yna pan gychwynnodd y Philistiad tuag at Ddafydd, rhedodd Dafydd yn chwim ar hyd y rheng i gyfarfod y Philistiad; rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr. Felly trechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl a charreg, a'i daro'n farw, heb fod ganddo gleddyf. Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant

1 Samuel 17:1-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca. Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a’r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw. Daeth milwr o’r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio’r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram, a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwydd. Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a’i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario’i darian o’i flaen. Dyma fe’n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam dych chi’n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi’n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi! Os gall e fy lladd i, byddwn ni’n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.” Yna gwaeddodd eto, “Dw i’n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!” Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn dyma nhw’n dechrau panicio; roedd ganddyn nhw ofn go iawn. Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a phan oedd Saul yn frenin roedd e’n ddyn mewn oed a pharch mawr iddo. Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i’r rhyfel. Dafydd oedd y mab ifancaf. Tra oedd y tri hynaf ym myddin Saul byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem. Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod. Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Plîs, brysia draw i’r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi’i grasu a deg torth iddyn nhw. A chymer y deg darn yma o gaws i’w roi i’r capten. Ffeindia allan sut mae pethau’n mynd, a thyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw’n iawn. Maen nhw yn Nyffryn Ela gyda Saul a byddin Israel yn ymladd y Philistiaid.” Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe’n cyrraedd y gwersyll wrth i’r fyddin fynd allan i’w rhengoedd yn barod i ymladd, yn gweiddi “I’r gad!” Roedd yr Israeliaid a’r Philistiaid yn wynebu’i gilydd yn eu rhengoedd. Gadawodd Dafydd y pac oedd ganddo gyda’r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes. Tra oedd e’n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A chlywodd Dafydd e. Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio’n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn. Roedden nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi’n gweld y dyn yna sy’n dod i fyny? Mae’n gwneud hyn i wawdio pobl Israel. Mae’r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy’n ei ladd e. Bydd y dyn hwnnw’n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.” Dyma Dafydd yn holi’r dynion o’i gwmpas, “Be fydd y wobr i’r dyn sy’n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio’r sarhau yma ar Israel? Pwy mae’r pagan yna’n meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?” A dyma’r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd gwobr pwy bynnag sy’n ei ladd e,” medden nhw. Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â’r dynion o’i gwmpas, ac roedd wedi gwylltio gydag e. “Pam ddest ti i lawr yma?” meddai. “Pwy sy’n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i’n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.” “Be dw i wedi’i wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.” A dyma fe’n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o’r blaen. Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw’n mynd i ddweud wrth Saul; a chafodd Dafydd ei alw ato. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i’n barod i ymladd y Philistiad yna!” “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o’r praidd. Bydda i’n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o’i geg. Petai’n ymosod arna i, byddwn i’n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a’i ladd. Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i’n gwneud yr un fath i’r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a’r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A’r ARGLWYDD fo gyda ti.” Dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e’i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a’i arfwisg bres amdano. Wedyn, dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e’n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai e wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd. Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o’r sychnant a’u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu’r Philistiad gyda’i ffon dafl yn ei law. Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda’i was yn cario’i darian o’i flaen. Pan welodd e Dafydd roedd e’n ei wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg. A dyma fe’n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti’n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e’n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau, a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di’n fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt!” Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i’n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti’n ei herio. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i’n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae’r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e’n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” Dyma’r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i’w gyfarfod. Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a’i hyrddio at y Philistiad gyda’i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. (Dyna sut wnaeth Dafydd guro’r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe’n tynnu cleddyf y Philistiad allan o’r wain, ei ladd, a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi’i ladd, dyma nhw’n ffoi.

1 Samuel 17:1-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim. Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid. A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt. A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres. A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau. A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef. Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi. Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni. A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd. Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr. A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a’i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr. A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd. A Dafydd oedd ieuangaf: a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul. Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem. A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod. A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr. Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt. Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â’r Philistiaid. A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr. Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin. A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr. A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd. A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr. A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a’r gŵr a’i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel. A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y DUW byw? A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef. Ac Eliab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered. A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos? Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen. A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac a’i lleddais ef. Felly dy was di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y DUW byw. Dywedodd Dafydd hefyd, Yr ARGLWYDD, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a’r ARGLWYDD fyddo gyda thi. A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig. A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano. Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad. A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef. A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a’i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg. A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef. Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes. Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, DUW byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod DUW yn Israel. A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr ARGLWYDD: canys eiddo yr ARGLWYDD yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni. A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad. A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb. Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd. Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant.