1 Samuel 10:1-6
1 Samuel 10:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd Samuel ffiol o olew a'i dywallt dros ei ben, a'i gusanu a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn d'eneinio'n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch? A dyma'r arwydd fod yr ARGLWYDD wedi d'eneinio'n dywysog ar ei etifeddiaeth: pan ei oddi wrthyf heddiw, cei ddau ddyn wrth fedd Rachel yn Selsach ar ffin Benjamin, a dywedant wrthyt fod yr asennod yr aethost i'w ceisio wedi eu cael, a bod dy dad wedi rhoi heibio fater yr asennod, ac yn poeni amdanoch chwi ac yn dweud, ‘Beth a wnaf am fy mab?’ Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win. Wedi iddynt dy gyfarch, rhoddant iti ddwy dorth; cymer dithau hwy ganddynt. Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo. A bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn arnat, a byddi dithau'n proffwydo gyda hwy ac yn cael dy droi'n ddyn gwahanol.
1 Samuel 10:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a’i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae’r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl, Israel. Byddi’n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o’u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai’r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl: wrth i ti adael heddiw byddi’n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw’n dweud: ‘Mae’r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i’r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’ “Byddi’n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi’n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel – un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a’r olaf yn cario potel groen o win. Byddan nhw’n dy gyfarch ac yn rhoi dwy dorth i ti. Cymer nhw ganddyn nhw. “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi’n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o’r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o’u blaenau nhw, a hwythau’n dilyn ac yn proffwydo. Yna bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi’n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol.
1 Samuel 10:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd Samuel ffiol o olew a'i dywallt dros ei ben, a'i gusanu a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn d'eneinio'n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch? A dyma'r arwydd fod yr ARGLWYDD wedi d'eneinio'n dywysog ar ei etifeddiaeth: pan ei oddi wrthyf heddiw, cei ddau ddyn wrth fedd Rachel yn Selsach ar ffin Benjamin, a dywedant wrthyt fod yr asennod yr aethost i'w ceisio wedi eu cael, a bod dy dad wedi rhoi heibio fater yr asennod, ac yn poeni amdanoch chwi ac yn dweud, ‘Beth a wnaf am fy mab?’ Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win. Wedi iddynt dy gyfarch, rhoddant iti ddwy dorth; cymer dithau hwy ganddynt. Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo. A bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn arnat, a byddi dithau'n proffwydo gyda hwy ac yn cael dy droi'n ddyn gwahanol.
1 Samuel 10:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. Ar ôl hynny y deui i fryn DUW, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall.