1 Samuel 1:10-18
1 Samuel 1:10-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Hanna’n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma hi’n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.” Buodd Hanna’n gweddïo’n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni. Am ei bod hi’n gweddïo’n dawel, roedd e’n gweld ei gwefusau’n symud ond heb glywed dim, felly roedd e’n meddwl ei bod hi wedi meddwi. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti’n meddwi fel yma? Rho’r gorau iddi! Sobra!” Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD. Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i’n teimlo.” “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” A dyma hi’n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.
1 Samuel 1:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl. Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.” Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau. Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed. Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.” Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn. Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.” Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.” Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist.
1 Samuel 1:10-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd. Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD. Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a DUW Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.