Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 1:1-28

1 Samuel 1:1-28 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Roedd yna ddyn o’r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw’n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a chyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai’n arfer rhoi cyfran o’r cig bob un i Penina a’i meibion a’i merched i gyd. Ond byddai’n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e’n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi’i rhwystro hi rhag cael plant. Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a’i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw’n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta. A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti’n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?” Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna’n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli’r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd. Roedd Hanna’n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma hi’n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.” Buodd Hanna’n gweddïo’n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni. Am ei bod hi’n gweddïo’n dawel, roedd e’n gweld ei gwefusau’n symud ond heb glywed dim, felly roedd e’n meddwl ei bod hi wedi meddwi. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti’n meddwi fel yma? Rho’r gorau iddi! Sobra!” Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD. Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i’n teimlo.” “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” A dyma hi’n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach. Yna bore drannoeth, dyma nhw’n codi ac addoli’r ARGLWYDD cyn mynd adre’n ôl i Rama. Dyma Elcana’n cysgu gyda’i wraig, a chofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi. Dyma Hanna’n beichiogi, a chyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e’n Samuel, am ei bod wedi gofyn i’r ARGLWYDD amdano. ARGLWYDD Daeth yn amser i Elcana a’i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a chyflawni addewid wnaeth e i Dduw. Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a’i gyflwyno i’r ARGLWYDD, a bydd e’n aros yno o hynny ymlaen.” Meddai Elcana, “Gwna di beth ti’n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu’r plentyn nes ei fod ddim angen y fron. Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â’r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tharw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e. Yna ar ôl iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw’n mynd â’r bachgen at Eli. Dyma Hanna’n cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy’r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw. Dyma’r bachgen rôn i’n gweddïo amdano, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi! Felly dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD. Dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.” Yna dyma nhw’n addoli’r ARGLWYDD yno.

1 Samuel 1:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gŵr o Ramathaim yn ucheldir Effraim, un o linach Suff, o'r enw Elcana fab Jeroham, fab Elihu, fab Tochu, fab Suff, Effratead. Yr oedd ganddo ddwy wraig, a'u henwau'n Hanna a Pheninna; yr oedd plant gan Peninna ond nid gan Hanna. Bob blwyddyn byddai'r gŵr hwn yn mynd i fyny o'i dref i addoli ac offrymu aberth i ARGLWYDD y Lluoedd yn Seilo, lle'r oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Bob tro yr oedd Elcana'n offrymu, byddai'n rhannu darnau o'r offrwm i'w wraig Peninna ac i bob un o'i bechgyn a'i merched; ond un darn a roddai i Hanna, er mai hi a garai, am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. Byddai ei chyd-wraig yn ei phoenydio'n arw i'w chythruddo am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. Dyma a ddigwyddai bob blwyddyn pan âi i fyny i dŷ'r ARGLWYDD; byddai'n ei phoenydio a hithau'n wylo a gwrthod bwyta, er bod ei gŵr Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?” Ar ôl iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl. Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.” Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau. Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed. Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.” Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn. Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.” Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.” Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist. Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama. Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.” Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned. Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.” Dywedodd ei gŵr Elcana wrthi, “Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid.” Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu. Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i dŷ'r ARGLWYDD yn Seilo. Wedi iddynt ladd yr ych, daethant â'r llanc at Eli, a dywedodd hi, “Henffych well, syr! Myfi yw'r wraig oedd yn sefyll yma yn d'ymyl yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gweddïo, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo. Yr wyf finnau'n ei fenthyg i'r ARGLWYDD am ei oes. Un wedi ei fenthyg i'r ARGLWYDD yw.” Ymgrymasant yno o flaen yr ARGLWYDD.

1 Samuel 1:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno. Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi; A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r ARGLWYDD gau ei bru hi. Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr ARGLWYDD, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion? Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr ARGLWYDD.) Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd. Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD. Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a DUW Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy. A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr ARGLWYDD; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r ARGLWYDD a’i cofiodd hi. A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr ARGLWYDD y dymunais ef, eb hi. A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r ARGLWYDD yr aberth blynyddol, a’i adduned. Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr ARGLWYDD, ac y trigo byth. Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr ARGLWYDD a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef. A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr ARGLWYDD yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc. A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli. A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r ARGLWYDD a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo: Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r ARGLWYDD; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r ARGLWYDD. Ac efe a addolodd yr ARGLWYDD yno.