Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 1:1-11

1 Samuel 1:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd yna ddyn o’r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw’n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a chyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai’n arfer rhoi cyfran o’r cig bob un i Penina a’i meibion a’i merched i gyd. Ond byddai’n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e’n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi’i rhwystro hi rhag cael plant. Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a’i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw’n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta. A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti’n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?” Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna’n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli’r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd. Roedd Hanna’n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma hi’n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”

1 Samuel 1:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gŵr o Ramathaim yn ucheldir Effraim, un o linach Suff, o'r enw Elcana fab Jeroham, fab Elihu, fab Tochu, fab Suff, Effratead. Yr oedd ganddo ddwy wraig, a'u henwau'n Hanna a Pheninna; yr oedd plant gan Peninna ond nid gan Hanna. Bob blwyddyn byddai'r gŵr hwn yn mynd i fyny o'i dref i addoli ac offrymu aberth i ARGLWYDD y Lluoedd yn Seilo, lle'r oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Bob tro yr oedd Elcana'n offrymu, byddai'n rhannu darnau o'r offrwm i'w wraig Peninna ac i bob un o'i bechgyn a'i merched; ond un darn a roddai i Hanna, er mai hi a garai, am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. Byddai ei chyd-wraig yn ei phoenydio'n arw i'w chythruddo am fod yr ARGLWYDD wedi atal iddi gael plant. Dyma a ddigwyddai bob blwyddyn pan âi i fyny i dŷ'r ARGLWYDD; byddai'n ei phoenydio a hithau'n wylo a gwrthod bwyta, er bod ei gŵr Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?” Ar ôl iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl. Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.”

1 Samuel 1:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno. Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi; A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r ARGLWYDD gau ei bru hi. Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr ARGLWYDD, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion? Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr ARGLWYDD.) Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd. Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.