1 Pedr 5:7-11
1 Pedr 5:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch. Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu. Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau. Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog. Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.
1 Pedr 5:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae’ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi’n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un fath. Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy’n perthyn i’r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a’ch cryfhau chi, a’ch gwneud chi’n gadarn a sefydlog. Fe sydd biau’r grym i gyd, am byth! Amen!
1 Pedr 5:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.