1 Pedr 5:6-9
1 Pedr 5:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser. Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch. Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu. Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.
1 Pedr 5:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw’r amser bydd e’n eich anrhydeddu chi. Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae’ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi’n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un fath.
1 Pedr 5:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.