1 Pedr 5:5-7
1 Pedr 5:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A chi’r rhai ifanc yr un fath. Dylech chi fod yn atebol i’r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw’r amser bydd e’n eich anrhydeddu chi. Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.
1 Pedr 5:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.” Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser. Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.
1 Pedr 5:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.