Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 5:1-14

1 Pedr 5:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gair i chi sy’n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy’n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia’n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i’r golwg!): Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny’n frwd, dim am eich bod chi’n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy’n eich gofal chi, ond eu harwain drwy fod yn esiampl dda iddyn nhw. Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo. A chi’r rhai ifanc yr un fath. Dylech chi fod yn atebol i’r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw’r amser bydd e’n eich anrhydeddu chi. Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae’ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi’n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un fath. Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy’n perthyn i’r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a’ch cryfhau chi, a’ch gwneud chi’n gadarn a sefydlog. Fe sydd biau’r grym i gyd, am byth! Amen! Dw i’n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i’n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio’ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn. Mae’r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi’u dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd. Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy’n dangos cariad go iawn. Dw i’n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy’n perthyn i’r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.

1 Pedr 5:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad â chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio. Bugeiliwch braidd Duw sydd yn eich gofal, nid dan orfod, ond o'ch gwirfodd yn ôl ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch, nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd. A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni â thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo. Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.” Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser. Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch. Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu. Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau. Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog. Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen. Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn ôl fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddisigl ynddo. Y mae'r hon ym Mabilon sydd yn gydetholedig â chwi yn eich cyfarch, a Marc, fy mab. Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!

1 Pedr 5:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo. Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i. Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.