1 Pedr 4:8-10
1 Pedr 4:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau. Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach. Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.
1 Pedr 4:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau . Agorwch eich cartrefi i’ch gilydd – bod yn groesawgar, a pheidio cwyno. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill.
1 Pedr 4:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw.