1 Pedr 4:7-14
1 Pedr 4:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. Am hynny, ymbwyllwch ac ymddisgyblwch i weddïo. O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau. Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach. Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw. Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen. Gyfeillion annwyl, peidiwch â rhyfeddu at y prawf tanllyd sydd ar waith yn eich plith, fel petai rhywbeth rhyfedd yn digwydd ichwi. Yn hytrach, yn ôl maint eich cyfran yn nioddefiadau Crist llawenhewch, er mwyn ichwi allu llawenhau hefyd, a gorfoleddu, pan ddatguddir ei ogoniant ef. Os gwaradwyddir chwi oherwydd enw Crist, gwyn eich byd, o achos y mae Ysbryd y gogoniant, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch.
1 Pedr 4:7-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo. Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau . Agorwch eich cartrefi i’ch gilydd – bod yn groesawgar, a pheidio cwyno. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy’n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo’i ddweud. Dylai pwy bynnag sy’n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda’r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a’i addoli drwy’r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau’r anrhydedd i gyd, a’r grym hefyd, a hynny am byth! Amen! Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi’n mynd drwy’r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e’n dod i’r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol. Mae’n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi.
1 Pedr 4:7-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.