1 Pedr 4:11
1 Pedr 4:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai pwy bynnag sy’n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo’i ddweud. Dylai pwy bynnag sy’n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda’r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a’i addoli drwy’r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau’r anrhydedd i gyd, a’r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!
1 Pedr 4:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.
1 Pedr 4:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.