Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 4:1-11

1 Pedr 4:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, am fod y Meseia wedi dioddef yn gorfforol, byddwch chithau’n barod i wneud yr un peth. Mae’r rhai hynny sy’n barod i ddioddef yn gorfforol wedi troi cefn ar bechod. Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau. Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae’r paganiaid yn mwynhau ei wneud – byw’n anfoesol yn rhywiol a gadael i’r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy’n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau. Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda’r llif i’r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw’n eich rhegi a’ch enllibio chi. Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy’n mynd i farnu pawb sy’n fyw a phawb sydd wedi marw. (Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i’r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi’u cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw’n cael byw gyda Duw drwy’r Ysbryd!) Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo. Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau . Agorwch eich cartrefi i’ch gilydd – bod yn groesawgar, a pheidio cwyno. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy’n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo’i ddweud. Dylai pwy bynnag sy’n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda’r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a’i addoli drwy’r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau’r anrhydedd i gyd, a’r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!

1 Pedr 4:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Am hynny, gan i Grist ddioddef yn y cnawd, cymerwch chwithau yr un meddwl yn arfogaeth i chwi—oherwydd y mae'r sawl a ddioddefodd yn y cnawd wedi darfod â phechod— fel na fydd ichwi mwyach dreulio gweddill eich amser yn y cnawd yn ôl chwantau dynol, ond yn ôl ewyllys Duw. Oherwydd y mae'r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd. Yn hyn o beth, y mae pobl yn ei gweld yn rhyfedd nad ydych chwi'n dal i ruthro gyda hwy i'r un llifeiriant o afradlonedd; ac y maent yn eich cablu. Bydd raid iddynt roi cyfrif i'r hwn sydd yn barod i farnu'r byw a'r meirw. I'r diben hwn y pregethwyd yr Efengyl i'r meirw hefyd; er mwyn iddynt—er cael eu barnu yn y cnawd fel y bernir pawb—fyw yn yr ysbryd fel y mae Duw yn byw. Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. Am hynny, ymbwyllwch ac ymddisgyblwch i weddïo. O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau. Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach. Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw. Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.