1 Pedr 3:8-9
1 Pedr 3:8-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda’ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd. Peidiwch talu’r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi’ch enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi.
1 Pedr 3:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith.
1 Pedr 3:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.