Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 3:8-22

1 Pedr 3:8-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda’ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd. Peidiwch talu’r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi’ch enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli’ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo. Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. Mae’r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn gwrando’n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy’n gwneud drygioni.” Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi’n frwd i wneud daioni. Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy’n iawn, cewch eich bendithio’n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a pheidiwch poeni.” Addolwch y Meseia â’ch holl galon, a’i gydnabod e’n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy’n gofyn i chi esbonio beth ydy’r gobaith sydd gynnoch chi. Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy’n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi’n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae’n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg. Roedd y Meseia wedi dioddef drwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o’i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw. Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i’r ysbrydion yn eu cyrchfan. Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu’r llong fawr, sef yr arch. A chriw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir). Ac mae bedydd, sy’n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi’i godi yn ôl yn fyw. Ac mae e bellach yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y nefoedd , gyda’r angylion a’r awdurdodau a’r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo.

1 Pedr 3:8-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd a gweld dyddiau da, rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg, a'i wefusau rhag llefaru celwydd; rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da, ceisio heddwch a'i ddilyn; canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad, ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.” Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni? Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu, ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist. Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg. Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd, ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar. Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr, ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist. Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.

1 Pedr 3:8-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg. A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn: A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni. Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd: Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar; Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist: Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef; a’r angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.