1 Pedr 3:8-12
1 Pedr 3:8-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda’ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd. Peidiwch talu’r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi’ch enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli’ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo. Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. Mae’r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn gwrando’n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy’n gwneud drygioni.”
1 Pedr 3:8-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â’ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a’i wefusau rhag adrodd twyll: Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef. Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
1 Pedr 3:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd a gweld dyddiau da, rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg, a'i wefusau rhag llefaru celwydd; rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da, ceisio heddwch a'i ddilyn; canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad, ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”