1 Pedr 3:18-22
1 Pedr 3:18-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y Meseia wedi dioddef drwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o’i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw. Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i’r ysbrydion yn eu cyrchfan. Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu’r llong fawr, sef yr arch. A chriw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir). Ac mae bedydd, sy’n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi’i godi yn ôl yn fyw. Ac mae e bellach yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y nefoedd , gyda’r angylion a’r awdurdodau a’r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo.
1 Pedr 3:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd, ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar. Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr, ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist. Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.
1 Pedr 3:18-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd: Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar; Y rhai a fu gynt anufudd, pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw;) trwy atgyfodiad Iesu Grist: Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef; a’r angylion, a’r awdurdodau, a’r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.