1 Pedr 3:15-17
1 Pedr 3:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Addolwch y Meseia â’ch holl galon, a’i gydnabod e’n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy’n gofyn i chi esbonio beth ydy’r gobaith sydd gynnoch chi. Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy’n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi’n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae’n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg.
1 Pedr 3:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist. Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg.
1 Pedr 3:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn: A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni.