1 Pedr 3:13-18
1 Pedr 3:13-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi’n frwd i wneud daioni. Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy’n iawn, cewch eich bendithio’n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a pheidiwch poeni.” Addolwch y Meseia â’ch holl galon, a’i gydnabod e’n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy’n gofyn i chi esbonio beth ydy’r gobaith sydd gynnoch chi. Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy’n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi’n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae’n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg. Roedd y Meseia wedi dioddef drwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o’i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw.
1 Pedr 3:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni? Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu, ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist. Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg. Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd
1 Pedr 3:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer; Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn: A chennych gydwybod dda; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a’i myn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni. Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd