1 Pedr 2:9-17
1 Pedr 2:9-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dych chi’n bobl sydd wedi’ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu’r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy’n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig. Ar un adeg doeddech chi’n neb, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma . Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu’ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw’n gweld y pethau da dych chi’n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw’n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. Dylech fod yn atebol i bob awdurdod dynol, yn union fel roedd yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy’n teyrnasu dros y cwbl, a’r llywodraethwyr sydd wedi’u penodi ganddo i gosbi pobl sy’n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy’n gwneud da. (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau’r bobl ffôl sy’n deall dim.) Dych chi’n rhydd, ond peidiwch defnyddio’ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu’r ymerawdwr.
1 Pedr 2:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef: “A chwi gynt heb fod yn bobl, yr ydych yn awr yn bobl Dduw; a chwi gynt heb dderbyn trugaredd, yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.” Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi. Ymostyngwch, er mwyn yr Arglwydd, i bob sefydliad dynol, p'run ai i'r ymerawdwr fel y prif awdurdod, ai i'r llywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef er cosb i ddrwgweithredwyr a chlod i weithredwyr daioni. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid. Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw. Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.
1 Pedr 2:9-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd. Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.