Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 2:4-25

1 Pedr 2:4-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy’n fyw. Dyma’r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi’i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd dych chi fel cerrig sy’n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‘deml’ ysbrydol. A chi hefyd ydy’r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy’n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. Dyma pam mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i’n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi’i dewis gen i. Fydd y sawl sy’n credu ynddo byth yn cael ei siomi.” Ydy, mae’r garreg yma’n werthfawr yn eich golwg chi sy’n credu. Ond i’r rhai sy’n gwrthod credu: “Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,” Hon hefyd ydy’r “garreg sy’n baglu pobl a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy’n gwrthod gwneud beth mae Duw’n ei ddweud sy’n baglu. Dyna’n union oedd wedi’i drefnu ar eu cyfer nhw. Ond dych chi’n bobl sydd wedi’ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu’r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy’n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig. Ar un adeg doeddech chi’n neb, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma . Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu’ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw’n gweld y pethau da dych chi’n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw’n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. Dylech fod yn atebol i bob awdurdod dynol, yn union fel roedd yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy’n teyrnasu dros y cwbl, a’r llywodraethwyr sydd wedi’u penodi ganddo i gosbi pobl sy’n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy’n gwneud da. (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau’r bobl ffôl sy’n deall dim.) Dych chi’n rhydd, ond peidiwch defnyddio’ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu’r ymerawdwr. Dylech chi sy’n gaethweision fod yn atebol i’ch meistri – nid dim ond os ydyn nhw’n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw’n greulon. Mae’n plesio Duw pan dych chi’n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi’n cael eich cam-drin. Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi’n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny’n plesio Duw. Dyna mae Duw wedi’ch galw chi i’w wneud. A’r esiampl i chi ei dilyn ydy’r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.” Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e’n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg. Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a’n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy’n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi’i glwyfo! Roeddech chi’n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy’n gofalu amdanoch chi.

1 Pedr 2:4-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw, yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur: “Wele fi'n gosod maen yn Seion, conglfaen etholedig a chlodfawr, a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.” Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl”, a hefyd, “Maen tramgwydd, a chraig rhwystr.” Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt. Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef: “A chwi gynt heb fod yn bobl, yr ydych yn awr yn bobl Dduw; a chwi gynt heb dderbyn trugaredd, yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.” Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi. Ymostyngwch, er mwyn yr Arglwydd, i bob sefydliad dynol, p'run ai i'r ymerawdwr fel y prif awdurdod, ai i'r llywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef er cosb i ddrwgweithredwyr a chlod i weithredwyr daioni. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid. Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw. Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr. Chwi weision, byddwch ddarostyngedig i'ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i'r rhai da ac ystyriol ond hefyd i'r rhai gormesol. Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod â'i flinderau er iddo ddioddef ar gam. Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod â hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Dduw. Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau.” Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn. Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd. Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.

1 Pedr 2:4-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd. Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin. Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas, eithr i’r rhai anghyweithas hefyd. Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.