1 Pedr 2:24-25
1 Pedr 2:24-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a’n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy’n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi’i glwyfo! Roeddech chi’n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy’n gofalu amdanoch chi.
1 Pedr 2:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd. Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.
1 Pedr 2:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.