1 Pedr 2:21-23
1 Pedr 2:21-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna mae Duw wedi’ch galw chi i’w wneud. A’r esiampl i chi ei dilyn ydy’r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.” Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e’n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg.
1 Pedr 2:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau.” Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.
1 Pedr 2:21-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn