1 Pedr 2:19-23
1 Pedr 2:19-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n plesio Duw pan dych chi’n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi’n cael eich cam-drin. Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi’n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny’n plesio Duw. Dyna mae Duw wedi’ch galw chi i’w wneud. A’r esiampl i chi ei dilyn ydy’r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.” Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e’n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg.
1 Pedr 2:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod â'i flinderau er iddo ddioddef ar gam. Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod â hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Dduw. Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau.” Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.
1 Pedr 2:19-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn