1 Pedr 2:11-12
1 Pedr 2:11-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma . Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu’ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw’n gweld y pethau da dych chi’n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw’n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.
1 Pedr 2:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.
1 Pedr 2:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad.