1 Pedr 2:1-3
1 Pedr 2:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o’ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy’r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam.
1 Pedr 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus! Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth, os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd.
1 Pedr 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air, Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.