Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 1:6-13

1 Pedr 1:6-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau’n anodd ar hyn o bryd, a’ch bod chi’n gorfod dioddef pob math o dreialon. Mae’r pethau yma’n digwydd er mwyn dangos eich bod chi’n credu go iawn. Mae’r un fath â’r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto. Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi’n ei garu e. Dych chi’n credu ynddo er eich bod chi ddim yn ei weld ar hyn o bryd. A dych chi wedi’ch llenwi â rhyw lawenydd cwbl wefreiddiol sy’n amhosib i’w ddisgrifio. Canlyniad credu ynddo yn y pen draw ydy y byddwch chi’n cael eich achub yn derfynol! Roedd y proffwydi’n sôn am yr achubiaeth oedd i’w rhoi yn rhodd i chi. Buon nhw’n edrych yn fanwl i’r cwbl, ond heb ddeall popeth. Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai’r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai’n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia’n cyfeirio ato? Pryd fyddai’r cwbl yn digwydd? Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae’r cwbl wedi’i rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â’r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o’r nefoedd. Mae’r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well. Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy’n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto.