1 Pedr 1:3-5
1 Pedr 1:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae’n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni’n edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Mae gan Dduw etifeddiaeth i’w rhannu gyda’i blant – un fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae’n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd! Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi’n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi’n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny’n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a’r byd yn dod i ben.
1 Pedr 1:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, i etifeddiaeth na ellir na'i difrodi, na'i difwyno, na'i difa. Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi, chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw hyd nes y daw iachawdwriaeth, yr iachawdwriaeth sydd yn barod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.
1 Pedr 1:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.