1 Pedr 1:18-21
1 Pedr 1:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Talodd Duw bris uchel i’ch gollwng chi’n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy’n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu’r pris hwnnw, ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr – gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno. Roedd Duw wedi’i apwyntio cyn i’r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i’r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi. Drwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw a’i anrhydeddu, dych chi’n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi’ch gobaith ynddo.
1 Pedr 1:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.
1 Pedr 1:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.