1 Pedr 1:14-16
1 Pedr 1:14-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i’w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi’ch galw chi ato’i hun yn berffaith lân. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.”
1 Pedr 1:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.”
1 Pedr 1:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.