Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 1:13-25

1 Pedr 1:13-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy’n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto. Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i’w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi’ch galw chi ato’i hun yn berffaith lân. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi’i wneud, Felly os dych chi’n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo’r parch mae’n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma. Talodd Duw bris uchel i’ch gollwng chi’n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy’n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu’r pris hwnnw, ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr – gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno. Roedd Duw wedi’i apwyntio cyn i’r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i’r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi. Drwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw a’i anrhydeddu, dych chi’n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi’ch gobaith ynddo. Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon. Wedi’r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o’r newydd! Mae’r bywyd dych chi wedi’i dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy’n darfod, ond mae’r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi’i phlannu ynoch chi, ac mae hi’n neges sy’n rhoi bywyd ac sy’n aros am byth. Achos, “Mae pobl feidrol fel glaswellt, a’u holl harddwch fel blodyn gwyllt – mae’r glaswellt yn gwywo a’r blodyn yn syrthio, ond mae neges yr Arglwydd yn aros am byth.” A’r neges yna ydy’r newyddion da gafodd ei bregethu i chi.

1 Pedr 1:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.” Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw. Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol. Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn syrthio, ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.”

1 Pedr 1:13-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.