1 Pedr 1:13-18
1 Pedr 1:13-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy’n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto. Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i’w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi’ch galw chi ato’i hun yn berffaith lân. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi’i wneud, Felly os dych chi’n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo’r parch mae’n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma. Talodd Duw bris uchel i’ch gollwng chi’n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy’n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu’r pris hwnnw
1 Pedr 1:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.” Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych
1 Pedr 1:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau