1 Pedr 1:12-21
1 Pedr 1:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt. Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth; eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.” Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.
1 Pedr 1:12-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae’r cwbl wedi’i rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â’r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o’r nefoedd. Mae’r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well. Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi’n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy’n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto. Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i’w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi’ch galw chi ato’i hun yn berffaith lân. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi’i wneud, Felly os dych chi’n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo’r parch mae’n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma. Talodd Duw bris uchel i’ch gollwng chi’n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy’n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu’r pris hwnnw, ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr – gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno. Roedd Duw wedi’i apwyntio cyn i’r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i’r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi. Drwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw a’i anrhydeddu, dych chi’n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi’ch gobaith ynddo.
1 Pedr 1:12-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych. Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.