1 Brenhinoedd 9:1-9
1 Brenhinoedd 9:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a phopeth arall roedd wedi bod eisiau’i wneud. A dyma’r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon. A dyma fe’n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a’r cwbl roeddet ti’n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru’r deml yma rwyt ti wedi’i hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser. Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i’n ddweud – bod yn ufudd i’r rheolau a’r canllawiau dw i wedi’u rhoi. Yna bydda i’n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’ Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a’r rheolau dw i wedi’u rhoi i chi; os byddwch chi’n addoli duwiau eraill, yna bydda i’n gyrru Israel allan o’r tir dw i wedi’i roi iddyn nhw. A bydda i’n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. Ac wedyn bydd Israel yn destun sbort ac yn jôc i bawb. Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy’n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae’r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i’r wlad ac i’r deml yma?’ A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i’w dilyn a’u haddoli. Dyna pam mae’r ARGLWYDD wedi gadael i’r dinistr yma ddigwydd.’”
1 Brenhinoedd 9:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i Solomon orffen adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin a'r cwbl a ddymunai ei wneud, fe ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo'r eildro, fel yr oedd wedi ymddangos iddo yn Gibeon. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tŷ hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth. Ac os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, yn gywir ac uniawn, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau, yna sicrhaf dy orsedd frenhinol dros Israel am byth, fel y dywedais wrth dy dad Dafydd, ‘Gofalaf na fyddi heb etifedd ar orsedd Israel.’ Ond os byddwch chwi a'ch plant yn gwrthgilio oddi wrthyf ac yn peidio â chadw fy ngorchmynion a'm hordinhadau, a osodais i chwi, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli, yna difodaf Israel o'r tir a rois iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a bydd Israel yn mynd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd. Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn chwibanu mewn syndod, ac yn dweud, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?’ A dywedir, ‘Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth â'u hynafiaid o'r Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg yma arnynt.’ ”
1 Brenhinoedd 9:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan orffennodd Solomon adeiladu tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, a chwbl o ddymuniad Solomon yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur; Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr ymddangosasai iddo yn Gibeon. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi di a’th ddeisyfiad di, yr hwn a ddeisyfaist ger fy mron i: cysegrais y tŷ yma a adeiledaist, i osod fy enw ynddo byth; fy llygaid hefyd a’m calon fydd yno yn wastadol. Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel. Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: A’r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ yma? A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.