Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 3:5-15

1 Brenhinoedd 3:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.” Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw. Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad. Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?” Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn, a dywedodd Duw wrtho, “Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos, gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl. Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.” Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boethoffrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision.

1 Brenhinoedd 3:5-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” Atebodd Solomon, “Roeddet ti’n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le. A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i, a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi’u dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae’n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd! Rho i mi’r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di’n iawn a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” Roedd ateb Solomon a’r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr. A dyma Duw’n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano – y gallu i lywodraethu yn ddoeth – a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd, dw i’n mynd i roi’r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i’n mynd i dy wneud di’n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl. Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw. Ac os byddi di’n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i’n rhoi oes hir i ti.” Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Aeth i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i’w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a chynnal gwledd i’w swyddogion i gyd.

1 Brenhinoedd 3:5-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd DUW, Gofyn beth a roddaf i ti. A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw. Ac yn awr, O ARGLWYDD fy NUW, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn. A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd. Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn? A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn. A DUW a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn: Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl. A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di. A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.