Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 19:11-21

1 Brenhinoedd 19:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dywedwyd wrtho, “Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD.” A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?” Atebodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le. Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd. Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu.” Wedi iddo ymadael oddi yno, cafodd Eliseus fab Saffat yn aredig, a deuddeg gwedd o'i flaen, ac yntau gyda'r ddeuddegfed. Wrth fynd heibio, taflodd Elias ei fantell drosto. Gadawodd yntau'r ychen a rhedeg ar ôl Elias a dweud, “Gad imi ffarwelio â'm tad a'm mam, ac mi ddof ar dy ôl.” Dywedodd wrtho, “Dos yn ôl; beth a wneuthum i ti?” Aeth yntau'n ôl a chymryd y wedd ychen a'u lladd, a berwi'r cig â gêr yr ychen, a'i roi i'r bobl i'w fwyta. Yna fe ddilynodd Elias a gweini arno.

1 Brenhinoedd 19:11-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo’r mynydd a’r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe’n lapio’i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti’n wneud yma Elias?” A dyma fe’n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Yno, eneinia Hasael yn frenin ar Syria. Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd. Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw. A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.” Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda’r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio. A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam gyntaf, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ych oedd ganddo, a defnyddio’r gêr a’r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta. Yna dyma fe’n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.

1 Brenhinoedd 19:11-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn: Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun. A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef. Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.