1 Brenhinoedd 19:11-12
1 Brenhinoedd 19:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo’r mynydd a’r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr.
1 Brenhinoedd 19:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedwyd wrtho, “Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD.” A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol.
1 Brenhinoedd 19:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn: Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain.