Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 19:1-21

1 Brenhinoedd 19:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Mynegodd Ahab i Jesebel y cwbl yr oedd Elias wedi ei wneud, a'i fod wedi lladd yr holl broffwydi â'r cleddyf. Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory.” Ofnodd yntau a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda. Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i'r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o'i galon am gael marw, a dywedodd, “Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f'einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na'm hynafiaid.” Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.” A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu. Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti.” Cododd yntau a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth yr ymborth hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw. Yno aeth i ogof i aros, a daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud, “Beth a wnei di yma, Elias?” Dywedodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Yna dywedwyd wrtho, “Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD.” A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?” Atebodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le. Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd. Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu.” Wedi iddo ymadael oddi yno, cafodd Eliseus fab Saffat yn aredig, a deuddeg gwedd o'i flaen, ac yntau gyda'r ddeuddegfed. Wrth fynd heibio, taflodd Elias ei fantell drosto. Gadawodd yntau'r ychen a rhedeg ar ôl Elias a dweud, “Gad imi ffarwelio â'm tad a'm mam, ac mi ddof ar dy ôl.” Dywedodd wrtho, “Dos yn ôl; beth a wneuthum i ti?” Aeth yntau'n ôl a chymryd y wedd ychen a'u lladd, a berwi'r cig â gêr yr ychen, a'i roi i'r bobl i'w fwyta. Yna fe ddilynodd Elias a gweini arno.

1 Brenhinoedd 19:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi’i wneud, a’i fod wedi lladd y proffwydi i gyd. Yna dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i’r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!” Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe’n dianc am ei fywyd. Aeth i Beersheba yn Jwda, gadael ei was yno a cherdded yn ei flaen drwy’r dydd i’r anialwch. Yna dyma fe’n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na’m hynafiaid.” Yna dyma fe’n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.” Edrychodd, ac roedd yna fara fflat wedi’i bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe’n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto. Daeth angel yr ARGLWYDD ato eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.” Felly dyma fe’n codi, bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a chyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD. Aeth i mewn i ogof i dreulio’r nos. Yna’n sydyn, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag e, “Be wyt ti’n wneud yma, Elias?” A dyma fe’n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo’r mynydd a’r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe’n lapio’i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti’n wneud yma Elias?” A dyma fe’n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Yno, eneinia Hasael yn frenin ar Syria. Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd. Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw. A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.” Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda’r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio. A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam gyntaf, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ych oedd ganddo, a defnyddio’r gêr a’r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta. Yna dyma fe’n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.

1 Brenhinoedd 19:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf. Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno. Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, ARGLWYDD, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd DUW. Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn: Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun. A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef. Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef. Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.