1 Brenhinoedd 17:2-7
1 Brenhinoedd 17:2-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i ffwrdd i’r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen. Cei ddŵr i’w yfed o’r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.” Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen. Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda’r nos, ac roedd yn yfed dŵr o’r nant. Ond ar ôl peth amser dyma’r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
1 Brenhinoedd 17:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato: “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen. Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.” Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen. Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant. Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad
1 Brenhinoedd 17:2-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dos oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o’r afon. Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.