1 Brenhinoedd 10:1-8
1 Brenhinoedd 10:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a’r clod roedd yn ei roi i’r ARGLWYDD. Felly dyma hi’n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda’i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a’i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. Roedd y frenhines wedi’i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi’i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a’r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i’r ARGLWYDD yn y deml. A dyma hi’n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi’u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. Doeddwn i ddim wedi credu’r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â’m llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di’n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. Mae’r bobl yma wedi’u bendithio’n fawr – y gweision sy’n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
1 Brenhinoedd 10:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled. Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi. A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb. Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais. Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.
1 Brenhinoedd 10:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled. A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i. Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.