1 Ioan 5:3-5
1 Ioan 5:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd, am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy’n rhoi’r fuddugoliaeth yna i ni! Pwy sy’n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy’n credu mai Iesu ydy Mab Duw.
1 Ioan 5:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus, am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?
1 Ioan 5:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?