1 Ioan 5:19-20
1 Ioan 5:19-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n blant i Dduw, ond mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg. Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi’n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi’n huno â’r gwir Dduw am ein bod ni wedi’n huno â’i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy’r unig wir Dduw, a fe ydy’r bywyd tragwyddol.
1 Ioan 5:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr ydym yn gwybod ein bod ni o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg. Yr ydym yn gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac wedi rhoi inni ddealltwriaeth, er mwyn inni adnabod yr Un gwir; ac yr ydym ni yn yr Un gwir, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol.
1 Ioan 5:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol.