1 Ioan 5:11-15
1 Ioan 5:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae’r bywyd hwn i’w gael yn ei Fab. Felly os ydy’r Mab gan rywun, mae’r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy’r Mab ddim ganddyn nhw. Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy’n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol. Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e. Ac os ydyn ni’n gwybod ei fod e’n gwrando arnon ni, dŷn ni’n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni’n gofyn amdano.
1 Ioan 5:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A hon yw'r dystiolaeth: bod Duw wedi rhoi inni fywyd tragwyddol. Ac y mae'r bywyd hwn yn ei Fab. Y sawl y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw'r bywyd ganddo. Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol. A hwn yw'r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â'i ewyllys ef. Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni.
1 Ioan 5:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.