Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Ioan 5:1-21

1 Ioan 5:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae pawb sy’n credu mai Iesu ydy’r Meseia wedi cael eu geni’n blant i Dduw, ac mae pawb sy’n caru’r Tad yn caru ei blentyn hefyd. Dŷn ni’n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni’n caru Duw ac yn gwneud beth mae’n ei ddweud. Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd, am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy’n rhoi’r fuddugoliaeth yna i ni! Pwy sy’n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy’n credu mai Iesu ydy Mab Duw. Iesu Grist – daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a’r gwaed. Ac mae’r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai’r Ysbryd ydy’r gwir. Felly dyna dri sy’n rhoi tystiolaeth: yr Ysbryd, dŵr y bedydd a’r gwaed ar y groes; ac mae’r tri yn cytuno â’i gilydd. Dŷn ni’n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma’r dystiolaeth mae Duw wedi’i roi am ei Fab! Mae pawb sy’n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae’r rhai sy’n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi’i dystio am ei Fab. A dyma’r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae’r bywyd hwn i’w gael yn ei Fab. Felly os ydy’r Mab gan rywun, mae’r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy’r Mab ddim ganddyn nhw. Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy’n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol. Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e. Ac os ydyn ni’n gwybod ei fod e’n gwrando arnon ni, dŷn ni’n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni’n gofyn amdano. Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy’n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy’n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae’r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw. Mae gwneud unrhyw beth o’i le yn bechod, ond dydy pob pechod ddim yn bechod marwol. Dŷn ni’n gwybod bod y rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw’n saff, a dydy’r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw. Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n blant i Dduw, ond mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg. Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi’n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi’n huno â’r gwir Dduw am ein bod ni wedi’n huno â’i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy’r unig wir Dduw, a fe ydy’r bywyd tragwyddol. Blant annwyl, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sy’n cymryd lle Duw yn eich bywydau chi.

1 Ioan 5:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pob un sy'n credu mai Iesu yw'r Crist, y mae wedi ei eni o Dduw; ac y mae pawb sy'n caru tad yn caru ei blentyn hefyd. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion. Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus, am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu, yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn. Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab. Y mae gan y sawl sy'n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo'i hun. Y mae'r sawl nad yw'n credu Duw yn ei wneud ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu'r dystiolaeth y mae Duw wedi ei rhoi. A hon yw'r dystiolaeth: bod Duw wedi rhoi inni fywyd tragwyddol. Ac y mae'r bywyd hwn yn ei Fab. Y sawl y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw'r bywyd ganddo. Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol. A hwn yw'r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â'i ewyllys ef. Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni. Os gwêl unrhyw un ei gydaelod yn cyflawni pechod nad yw'n bechod marwol, dylai ofyn, ac fe rydd Duw fywyd iddo—hynny yw, i'r rhai nad yw eu pechod yn farwol. Y mae pechod sy'n farwol; nid ynglŷn â hwn yr wyf yn dweud y dylai weddïo. Y mae pob anghyfiawnder yn bechod; ond y mae hefyd bechod nad yw'n farwol. Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd. Yr ydym yn gwybod ein bod ni o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg. Yr ydym yn gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac wedi rhoi inni ddealltwriaeth, er mwyn inni adnabod yr Un gwir; ac yr ydym ni yn yr Un gwir, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol. Blant, ymgadwch rhag eilunod.

1 Ioan 5:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd. Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab. Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab. A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo. Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono. Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth. Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef. Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.