1 Ioan 4:9-11
1 Ioan 4:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd.
1 Ioan 4:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.
1 Ioan 4:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.