1 Ioan 4:18-19
1 Ioan 4:18-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni’n ofnus mae’n dangos ein bod ni’n disgwyl cael ein cosbi, a’n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu’n llwyr gan gariad Duw. Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.
1 Ioan 4:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad. Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
1 Ioan 4:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.