1 Ioan 4:15-16
1 Ioan 4:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni’n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni’n dibynnu’n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae’r rhai sy’n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw.
1 Ioan 4:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.
1 Ioan 4:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.