1 Ioan 4:13-19
1 Ioan 4:13-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n gwybod ein bod ni’n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i fod yn Achubwr y byd. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni’n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni’n dibynnu’n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae’r rhai sy’n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni’n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni’n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw. Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni’n ofnus mae’n dangos ein bod ni’n disgwyl cael ein cosbi, a’n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu’n llwyr gan gariad Duw. Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.
1 Ioan 4:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd. Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau. Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad. Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
1 Ioan 4:13-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.