1 Ioan 4:11-12
1 Ioan 4:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 41 Ioan 4:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.
Rhanna
Darllen 1 Ioan 4